Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr
Cyfododd Iesu'n fyw;
Daeth yn ei law alluog
 phardwn dynol-ryw;
Gwnaeth etifeddion uffern
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed
 chanu iddo ef.
Boed iddo'r holl ogoniant,
Iachawdwr mawr y byd;
Mae'n rhaid i mi ei ganmol
Pe byddai pawb yn fud;
Mae'n medru cydymdeimlo
 gwaeledd
llwch y llawr,
A charu heb gyfnewid
I dragwyddoldeb mawr.
Fe'i gwelir ar y cwmwl
Yn dyfod cyn bo hir,
A'i ddedwydd waredigion,
Ffrwyth ei ddioddefaint pur:
Bydd gogledd, de, a dwyrain,
Gorllewin faith, yn un,
Oll yn eu gynau gwynion
Yn moli Mab y Dyn.
Tragwyddol glod i'r Cyfiawn
Fu farw dros fy mai;
Fe adgyfododd eilwaith
O'r bedd i'm cyfiawnhau;
Ar orsedd ei drugaredd
Mae'n dadleu yn y ne'
Ei fywyd a'i farwolaeth
Anfeidrol yn fy lle.
- - - - -
Er gwaetha'r maen a'r milwyr
Fe gododd Iesu'n fyw;
Daeth yn ei law alluog
A phardwn dynol-ryw:
Gwnaeth etifeddion uffern
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed
A chanu iddo ef.
Morgan Rhys 1716-79
Tonau [7676D]: gwelir: Ac yna adgyfododd Er gwaetha'r maen a'r milwyr dig Fyth fyth rhyfeddai'r cariad Tragwyddol glod i'r Cyfiawn Yr Iesu adgyfododd |
In spite of the stone and the guards
Christ rose to life;
He brought in his mighty hand
The pardon of humankind;
He made the heirs of hell
Heirs of heaven;
May my soul never be silent
From singing to him.
To him be all the glory,
The great Saviour of the world;
I must praise him
If everyone were mute;
He can sympathise
With the poverty of
the dust of the ground,
And love without changing
To great eternity.
He will be seen on the cloud
Coming before long,
With his happy delivered ones,
The fruit of his pure suffering:
North, south and east,
The vast West, will become one,
All in their white robes
Praising the Son of Man.
Eternal praise to the Righteous One
Who died for my sin;
He rose again
From the grave to justify me;
On the throne of his mercy
He is pleading in heaven
His life and his immeasurable
Death in my place.
- - - - -
In spite of the stone and the soldiers
Jesus arose alive;
He brought in his mighty hand
The pardon of human-kind:
He made the heirs of hell
Heirs of heaven;
May my soul never be silent
From singing to him.
tr. 2009,25 Richard B Gillion
|
|